Pe bai dechrau cwmni newydd ddim yn ddigon o her, croesawom ferch fach annwyl i’r byd ar Ebrill 6ed. Does dim angen poeni am anghofio’r flwyddyn newydd trethi felly! Rhaid oedd dychwelyd i’r gwaith ond gyda babi bach newydd ganedig wrth ein hochr. Synnwn yn fawr os na fydd ei geiriau cyntaf yn ‘Bore Da, Addysg Seren!’
Penderfynom ei henwi’n Cari Wyn Jones, ac mae hi wedi ymgartrefu’n hawdd iawn i’n tîm ac mae staff a chleientiaid wedi dwli arni! Mae ganddi wir botensial i fod yn ymgynghorydd penigamp!




